Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Cymraeg
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Telerau ac Amodau 

Gwefan gan y Llywodraeth a reolir gan Lywodraeth Cymru, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘LlC’ yw ‘Noddfa’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.

Mae’r wefan Noddfa a’i gwefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i chi eu darllen. Trwy ddod i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Eiddo Deallusol

Nodau perchnogol Llywodraeth Cymru yw enwau, delweddau a logos adnabod Noddfa. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.

Dylid cyfeirio ceisiadau i gael defnyddio ein logo at: refugees@gov.wales.

Hawlfraint y Goron

Caiff y deunydd a geir ar y wefan hon ei diogelu gan Hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gall y deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron (ac eithrio’r Arfau Brenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) gael ei atgynhyrchu’n rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd â hawlfraint yn ymestyn i unrhyw beth ar y safle hwn y nodwyd ei fod yn perthyn i drydydd parti. Bydd angen caniatâd deiliad yr hawlfraint arnoch i atgynhyrchu'r deunydd hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog defnyddwyr i sefydlu cysylltiadau hyperdestun â'r wefan hon. I gael rhagor o wybodaeth am bolisi Hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu, gweler y canllawiau ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus - www.opsi.gov.uk

Hypergysylltu

Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau’r wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth ar ein gwefan. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai ein tudalennau yn cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan chi. Dylai tudalennau Llywodraeth Cymru gael eu llwytho i mewn i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich gwefan chi.

Perchenogion Safleoedd Porthol - Os ydych am gynnwys tudalennau gwefan Llywodraeth Cymru ar safle porthol, cysylltwch â refugees@gov.wales. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich rhif ffacs a’ch cyfeiriad e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.

O’r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt. Nid yw rhestru gwefannau yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau y ceir dolenni iddynt. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau gyda dolenni neu’r cynnwys y mae’r dolenni’n arwain ato, rhowch wybod i ni trwy refugees@gov.wales

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen atal feirysau ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio deunydd a gafwyd o wefannau Llywodraeth Cymru.

Cyngor mewnfudo

Nid yw’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan Noddfa yn gyngor cyfreithiol nac yn gyngor mewnfudo. Mae cyfraith mewnfudo yn gymhleth a dylech gael cyngor penodol ynghylch eich amgylchiadau chi eich hun gan ymarferydd cyfreithiol a reoleiddir. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw benderfyniadau cyfreithiol y byddwch chi’n eu gwneud o ganlyniad i ddarllen y wefan hon. Gallwch ddod o hyd i gynghorydd mewnfudo cofrestredig trwy Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo:

https://www.gov.uk/find-an-immigration-adviser

Cyfieithu Testun a Chyfieithu ar y Pryd

Mae’r wefan Noddfa yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu Trydydd Parti i’ch cynorthwyo i ddeall cynnwys y wefan. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio cyfieithiadau yn y cwmwl nad ydynt wedi cael eu cynhyrchu gan LlC nac unrhyw gyfieithydd proffesiynol. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed a achosir gan gyfieithiad anghywir. 

Ymwadiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ar y wefan Noddfa yn gywir. Ni ellir derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau. Ni all Llywodraeth Cymru dderbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio’r deunydd a geir ar ei gwefan. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan arall y mae ei gwefan yn cysylltu â hi trwy hyperdestun.

Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau’r wefan Noddfa (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth. Darperir y wefan heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, gan gynnwys, ymysg gwarantau eraill, gwarantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, diffyg tor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. 

Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath sy’n deillio o ddefnyddio neu fethu â defnyddio data, neu elw, sy’n deillio o ddefnyddio gwefannau Llywodraeth Cymru neu sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.