Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r wefan hon i wasanaethu'r gynulleidfa fwyaf posibl o ddefnyddwyr. Mae meddalwedd cyfieithu ‘Recite Me’ yn trosi’r wefan Noddfa i dros 100 o ieithoedd. Mae hyn yn ehangu nifer y bobl sy'n ceisio noddfa a all gael mynediad at y wefan.
Ein nod yw dilyn safonau hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys egwyddorion cyffredinol o ran sut y dylai'r wefan edrych a gweithio. Dylai hyn helpu pob ymwelydd â'r wefan hon.
Mae'r wefan wedi'i bwriadu i gefnogi defnyddwyr sy'n ddall neu â nam ar eu golwg. Mae'n cynnwys meddalwedd darllen sgrîn trwy'r offeryn ‘Recite Me’.
Mae cynnal gwefan hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio'n barhaus i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at ein gwefan a'i defnyddio. Os ydych yn cael trafferth defnyddio ein gwefan, cysylltwch â ni: refugees@gov.wales