Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data, ac atal unrhyw fynediad heb ei awdurdodi atynt.
Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nag unrhyw adran arall o'r Llywodraeth.
Eich hawliau
Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennych hawliau fel unigolion ac mae modd i chi eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Y rhain yw;
- yr hawl i gael mynediad at gopi o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y data personol a gedwir amdanoch chi;
- yr hawl i wrthwynebu prosesu'r data sydd sy’n achosi niwed neu drallod neu sy’n debygol o wneud hynny;
- yr hawl i rwystro prosesu'r data i'w marchnata'n uniongyrchol;
- yr hawl i wrthwynebu gwneud penderfyniadau drwy ddull awtomatig;
- yr hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio unrhyw ddata personol gwallus; a hefyd
- yr hawl i geisio am iawndal am ddifrod a achosir wrth dorri'r Ddeddf.
Gallwch ddarllen rhagor am yr hawliau hyn yma.
Ymwelwyr â’n gwefannau
Pan fyddwch yn ymweld â www.sanctuary.gov.walesrydym yn defnyddio ‘Google Analytics’ gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Ein bwriad wrth wneud hyn yw canfod nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y wefan, er enghraifft. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu'n gwbl ddienw ac nid oes modd adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym ni yn ceisio canfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith. Os byddwn am gasglu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Wrth gasglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi hynny'n glir ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â’r wybodaeth hon.
Pobl sy’n Anfon E-bost Atom
Rydym yn defnyddio Diogelwch Haen Cludo (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost yn unol â gofynion y Llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cefnogi Diogelwch Haen Cludo, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd modd i’r negeseuon e-bost rydym yn eu hanfon neu'n eu cael drosglwyddo’n ddiogel.
Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost sy'n cael eu hanfon atom, gan gynnwys atodiadau, am feirysau neu feddalwedd maleisus. Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Cwynion neu ymholiadau
Rydym yn ceisio bodloni'r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Felly, rydym yn trin unrhyw gwynion a ddaw i law ynghylch hyn yn wirioneddol o ddifrif. Cysylltwch â ni os ydych yn credu ein bod yn casglu neu'n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.
Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddrafftio i fod yn gryno ac yn eglur. Nid yw'n cynnwys holl fanylion pob agwedd ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu eglurhad yn ôl yr angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod.
Dolenni i wefannau eraill
Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni sy'n arwain at wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.
Dewis
Mae’r wefan Noddfa yn defnyddio cronfa ddata Dewis Cymru i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau yn eu hardal. Dim ond gwybodaeth ddienw sy’n nodi ble y mae defnyddwyr yn chwilio am wasanaethau yr ydym yn ei chofnodi. Nid oes unrhyw ddata am wasanaethau y ceir mynediad atynt yn cael eu storio gan Lywodraeth Cymru.
Newidiadau i’r polisi Preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Mae ail-edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod wastad yn ymwybodol pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut yr ydym yn ei rhannu.
Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 8 Mai 2019.
Sut i gysylltu â ni
Os hoffech ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom yn cymorthigwsmeriaid@llyw.cymruneu ysgrifennu at:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r Llywodraeth i ddod o hyd i’r wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg.
Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ymdrin â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Dyma fanylion Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ. E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru