Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Official
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:

https://noddfa.llyw.cymru/covid-19  

Mae deddfau mewnfudo yn gymhleth iawn. Bydd eich hawliau yn wahanol os ydych yn ‘ffoadur’, yn ‘geisiwr lloches’, yn ‘geisiwr lloches a wrthodwyd’ neu'n rhywun â statws mewnfudo arall. Mae Llywodraeth Cymru am ddarparu noddfa i unrhyw un y mae arno angen cymorth ac angen cael ei amddiffyn. Rydym yn ymdrechu'n galed i sicrhau bod unrhyw un yn y sefyllfaoedd hyn yn gallu cael mynediad at wasanaethau ond nid yw hyn yn bosibl bob amser.

Ni chaniateir i Lywodraeth Cymru roi cyngor cyfreithiol uniongyrchol i unrhyw unigolyn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n gymwys ac yn cael ei reoleiddio. Mae'n rhaid bod sefydliad yn cael ei reoleiddio gan ‘Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo’ (OISC) os yw'n rhoi cyngor i chi am eich statws. Os nad yw, efallai ei fod yn torri'r gyfraith. Gallwch chwilio am gynghorydd cyfreithiol a reoleiddir gan OISC yn eich ardal chi trwy chwilio ar wefan OISC.

Accordion
Title
Ceiswyr lloches sy’n oedolion – yn disgwyl am benderfyniad
Body

Gall y broses o wneud cais am loches fod yn hir a chymhleth iawn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl.

Efallai yr hoffech ddarllen y ‘Pecyn Cymorth Hawl i Aros’sy’n egluro pob cam o’r ‘daith lloches’. Mae’r Pecyn Cymorth ar gael mewn sawl iaith.

Mae Llywodraeth y DU yn ariannu ‘Migrant Help’ i ddarparu cymorth i geiswyr lloches ledled y DU. Gall Migrant Help eich helpu i wneud cais am loches ac i ymateb i faterion y byddwch o bosibl yn eu profi trwy gydol y broses. Gallwch gysylltu â Migrant Help trwy eu gwefan.

Title
Ceiswyr lloches ifainc
Body

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu tri chanllaw i gynorthwyo pobl ifanc i ddeall y system lloches a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud i wneud cais i aros yn y DU. Rydym yn argymell eich bod yn darllen pob un o’r canllawiau hyn er mwyn deall y system lloches yn well.

Mae TGP Cymru hefyd yn rhedeg prosiect i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan rywun sy'n deall y system lloches yn dda. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifainc eraill, a gwirfoddoli. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar wefan TGP Cymru.

Title
Wedi cael statws ffoadur
Body

Fel ffoadur, dylech allu cael mynediad at wasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, dylech wirio pa statws mewnfudo a roddwyd i chi gan y gallai fod rhai cyfyngiadau. Er enghraifft, efallai fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na allwch gael mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol. Fel arfer, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi ‘caniatâd i chi aros’ am hyd at 5 mlynedd yn unig. Efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio am ganiatâd i aros yn y DU tuag at ddiwedd y cyfnod hwnnw. Dylech geisio cyngor cyfreithiol wrth wneud cais.

Title
Ceiswyr lloches a wrthodwyd
Body

Os gwrthodwyd lloches i chi, mae'n hanfodol eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Efallai yr hoffech ddarllen y ‘Pecyn Cymorth Hawl i Aros’sy’n egluro pob cam o’r ‘daith lloches’. Mae'r Pecyn Cymorth ar gael mewn sawl iaith. Mae'r Pecyn Cymorth yn cynnwys gwybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am loches. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ‘Rhoi Mewnfudwyr Dan Gadwad’ a’u ‘Hallgludo’.

Gall fod yn anodd iawn meddwl am hyn ond weithiau gall Llywodraeth y DU helpu pobl i ddychwelyd i'w gwlad wreiddiol. Gallant wneud hyn trwy ‘Ddychweliad Gwirfoddol â Chymorth’. Gall hyn gynnwys cyllid er mwyn i chi sefydlu eich busnes eich hun a chymorth parhaus yn eich mamwlad. Efallai eich bod yn teimlo nad yw dychwelyd adref yn opsiwn i chi ond gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu elusen cyngor cyfreithiol o'r enw ‘Cyfiawnder Lloches’ trwy'r Rhaglen Hawliau Lloches (ARP). Fe’i sefydlwyd i roi cyngor arbenigol i'r rhai y gwrthodwyd lloches iddynt. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar wefan Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Title
Ffoadur wedi’I ailsefydlu
Body

Fel ffoadur, dylech allu cael mynediad at wasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, dylech wirio pa statws mewnfudo a roddwyd i chi gan y gallai fod rhai cyfyngiadau. Er enghraifft, efallai fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na allwch gael mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol. Fel arfer, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi ‘caniatâd i chi aros’ am hyd at 5 mlynedd yn unig. Efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio am ganiatâd i aros yn y DU tuag at ddiwedd y cyfnod hwnnw. Dylech geisio cyngor cyfreithiol wrth wneud cais.