Dewis Iaith
  • English
    Official
  • Cymraeg
    Official
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o\'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu
Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:

https://noddfa.llyw.cymru/covid-19  

Gwyddom fod y rhan fwyaf o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dymuno gweithio. Mae rhesymau weithiau pam nad yw hyn yn bosibl. Efallai mai'r rheswm yw nad oes gennych hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Efallai mai'r rheswm yw nad ydych eto'n deall ieithoedd lleol yn ddigon da i gael swydd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen arian arnoch chi a'ch teulu o hyd i dalu am gostau byw.

Mae'r adran hon o'r wefan yn esbonio lle y gallech gael arian i’ch cefnogi.

Efallai y bydd arian ar gael trwy gymorth lloches Llywodraeth y DU dan rai amgylchiadau. Efallai y bydd ffoaduriaid yn gallu cael budd-daliadau lles. Mae ffynonellau cyllid eraill ar gael hefyd os oes angen.

Accordion
Title
Ceiswyr lloches sy’n oedolion – yn disgwyl am benderfyniad
Body

Os ydych yn disgwyl am benderfyniad ar eich cais am loches, mae'n annhebygol y bydd gennych yr hawl i weithio. Hefyd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at fudd-daliadau lles, fel ‘Credyd Cynhwysol’. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth lloches sydd hefyd yn cael ei alw'n gymorth ‘Adran 95’.

Mae cymorth Adran 95 yn darparu £37.75 y pen bob wythnos ar hyn o bryd. Bydd yr arian hwn ar gael trwy ddefnyddio cerdyn ‘ASPEN’, sy'n fath o gerdyn debyd. Gellir defnyddio'r cerdyn hwn mewn peiriant arian i godi arian. Darperir yr arian hwn i dalu am eitemau fel bwyd, dillad a phethau ymolchi. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi os nad oes gennych le i fyw neu ddigon i brynu eitemau hanfodol.

Beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 3 oed, efallai y cewch arian ychwanegol. Os yw eich baban i fod i gael ei eni ymhen 8 wythnos neu lai, neu os yw eich baban o dan 6 wythnos oed, gallwch wneud cais am £300. Ceir rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol i geiswyr lloches ar wefan Llywodraeth y DU.

Gronfa Cymorth Dewisol

Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa i gefnogi'r rhai sy’n ddiymgeledd, sef y ‘Gronfa Cymorth Dewisol’. Efallai y bydd modd i chi gael rhywfaint o arian os ydych yn ddiymgeledd a'ch bod yn gwneud cais trwy sefydliad cefnogi ffoaduriaid. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Prydau bwyd ysgol am ddim

Gall ceiswyr lloches gael cymorth i dalu costau sy'n gysylltiedig â bod â phlant yn yr ysgol hefyd. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i'r rhan fwyaf o geiswyr lloches sy'n disgwyl am benderfyniad. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen 'Eich Ardal Leol'.

Os byddwch yn cael prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn, gallwch hefyd gael mynediad at £125 ychwanegol. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu gwisg ysgol, offer neu git chwaraeon. Gellir defnyddio hwn hefyd i dalu am weithgareddau y tu allan i'r ysgol trwy Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais am y cyllid hwn trwy eich awdurdod lleol a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gostau sy’n gysylltiedig ag addysg ar ôl 16 oed yn yr adran ‘Addysg i Bobl o Bob Oed' ar y wefan hon.

Title
Ceiswyr lloches ifainc
Body

Os yw asesiad yn canfod eich bod o dan 18 oed, dylech gael cymorth eich awdurdod lleol. Dylai eich awdurdod lleol eich helpu i sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar yr arian y mae ei angen arnoch.

Os yw asesiad yn canfod eich bod dros 18 oed, mae'n annhebygol y bydd gennych yr hawl i weithio. Hefyd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at fudd-daliadau lles, fel ‘Credyd Cynhwysol’. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth lloches sydd hefyd yn cael ei alw'n gymorth ‘Adran 95’.

Mae cymorth Adran 95 yn darparu £37.75 y pen bob wythnos ar hyn o bryd. Bydd yr arian hwn ar gael trwy ddefnyddio cerdyn ‘ASPEN’, sy'n fath o gerdyn debyd. Gellir defnyddio'r cerdyn hwn mewn peiriant arian i godi arian. Darperir yr arian hwn i dalu am eitemau fel bwyd, dillad a phethau ymolchi. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi os nad oes gennych le i fyw neu ddigon i brynu eitemau hanfodol.

Beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 3 oed, efallai y cewch arian ychwanegol. Os yw eich baban i fod i gael ei eni ymhen 8 wythnos neu lai, neu os yw eich baban o dan 6 wythnos oed, gallwch wneud cais am £300. Ceir rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol i geiswyr lloches ar wefan Llywodraeth y DU.

Gronfa Cymorth Dewisol

Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa i gefnogi'r rhai sy’n ddiymgeledd, sef y ‘Gronfa Cymorth Dewisol’. Efallai y bydd modd i chi gael rhywfaint o arian os ydych yn ddiymgeledd a'ch bod yn gwneud cais trwy sefydliad cefnogi ffoaduriaid. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Prydau bwyd ysgol am ddim

Gall ceiswyr lloches gael cymorth i dalu costau sy'n gysylltiedig â bod â phlant yn yr ysgol hefyd. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i'r rhan fwyaf o geiswyr lloches sy'n disgwyl am benderfyniad. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’.

Os byddwch yn cael prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn, gallwch hefyd gael mynediad at £125 ychwanegol. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu gwisg ysgol, offer neu git chwaraeon. Gellir defnyddio hwn hefyd i dalu am weithgareddau y tu allan i'r ysgol trwy Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais am y cyllid hwn trwy eich awdurdod lleol a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gostau sy’n gysylltiedig ag addysg ar ôl 16 oed yn yr adran ‘Addysg i Bobl o Bob Oed’ ar y wefan hon.

Title
Wedi cael statws ffoadur
Body

Bydd unrhyw gymorth yr ydych wedi’i gael o dan ‘Adran 95’ neu ‘Adran 4’ fel ceisiwr lloches yn dod i ben 28 diwrnod ar ôl i Lywodraeth y DU eich cydnabod fel ffoadur. Mae hwn yn cael ei adnabod fel y cyfnod ‘Symud Ymlaen’.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r ‘Prosiect Tai i Ffoaduriaid’ yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru. Diben y prosiect yw cynorthwyo ffoaduriaid yn ystod y cyfnod hwn o 28 diwrnod i ddod o hyd i le newydd i fyw ac addasu i gael yr hawl i weithio a hawlio budd-daliadau lles. Efallai y gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu: 02920 489 800.

Yn ystod y cyfnod ‘Symud ymlaen’, bydd angen i chi geisio dod o hyd i swydd neu gael mynediad at fudd-daliadau lles. Dylai Llywodraeth y DU eich helpu i drefnu apwyntiad gyda'r ‘Ganolfan Byd Gwaith’ i wneud y ddau o’r rhain.

Credyd Cynhwysol

Fel ffoadur, mae'n debygol y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau lles megis ‘Credyd Cynhwysol’.Ceir rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar wefan Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, os mai dim ond ‘Caniatâd Dewisol i Aros’ rydych wedi'i gael, mae'n annhebygol y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau lles.

Dylai Llywodraeth y DU ddarparu cymorth i ffoaduriaid sydd newydd gael eu cydnabod ond gall hyn weithiau gymryd amser i'w drefnu. Fel arfer, mae ‘Credyd Cynhwysol’ yn cymryd nifer o wythnosau i gyrraedd eich cyfrif cynilion. Fodd bynnag, rydych yn debygol o fod yn gymwys i gael ‘Rhagdaliad’. Mae'n rhaid i chi ofyn am ragdaliad pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ofyn am Ragdaliadau ar wefan Llywodraeth y DU.

Daliad Cymorth Brys

Gallwch wneud cais am ‘Daliad Cymorth Brys’ os bydd oedi gyda'ch taliadau nawdd cymdeithasol. Gallwch wneud cais trwy ‘Gronfa Cymorth Dewisol’ Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y Gronfa ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fenthyciad Integreiddio Ffoaduriaid

Gallwch hefyd wneud cais am ‘Fenthyciad Integreiddio Ffoaduriaid’ gan Lywodraeth y DU. Gall y benthyciadau hyn dalu cost rhent, eitemau'r cartref, hyfforddiant neu addysg. Ceir rhagor o wybodaeth am Fenthyciadau Integreiddio Ffoaduriaid ar wefan Llywodraeth y DU.

I gael budd-daliadau lles neu gyflog o swydd mae'n debygol y bydd angen cyfrif cynilion arnoch. Mae'n bwysig eich bod yn agor cyfrif cyn gynted â phosibl. Ceir ystod o fanciau, ‘cymdeithasau adeiladu’ ac ‘undebau credyd’ y gellir cael mynediad iddynt ar gyfer cyfrif cynilion. Ceir rhagor o wybodaeth am Undebau Credyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prydau bwyd ysgol am ddim

Efallai y bydd ffoaduriaid yn gallu cael cymorth i dalu costau sy'n gysylltiedig â bod â phlant yn yr ysgol hefyd, gan ddibynnu ar eich incwm. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i'r rhai sy’n cael rhai taliadau nawdd cymdeithasol. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch Awdurdod Lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’.

Os byddwch yn cael prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn, gallwch hefyd gael mynediad at £125 ychwanegol. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu gwisg ysgol, offer neu git chwaraeon. Gellir defnyddio hwn hefyd i dalu am weithgareddau y tu allan i'r ysgol trwy Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais am y cyllid hwn trwy eich awdurdod lleol a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gostau sy’n gysylltiedig ag addysg ar ôl 16 oed yn yr adran ‘Addysg i Bobl o Bob Oed’ ar y wefan hon.

Title
Ceiswyr lloches a wrthodwyd
Body

Os gwrthodwyd lloches i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ‘Adran 4’.

Bydd cymorth Adran 4 ar hyn o bryd yn darparu £35.39 y pen bob wythnos. Os nad oes gennych le i fyw neu ddigon i brynu eitemau hanfodol, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth y DU hefyd yn darparu llety i chi. Bydd yr arian hwn ar gael trwy ddefnyddio cerdyn ‘ASPEN’, sy'n fath o gerdyn debyd. Ni fyddwch yn gallu codi arian parod o beiriant arian parod.

Ni fyddwch yn cael unrhyw gyllid os nad ydych yn derbyn cynnig Llywodraeth y DU o lety ac yn dilyn eu rheolau.

Beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 3 oed, efallai y cewch arian ychwanegol. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 3 oed, efallai y cewch arian ychwanegol. Os yw eich baban i fod i gael ei eni ymhen 8 wythnos neu lai, neu os yw eich baban o dan 6 wythnos oed, gallwch wneud cais am £250. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Arian Cyhoeddus

Os nad oes gennych hawl i gael cymorth ‘Adran 4’, ni fyddwch yn gallu hawlio unrhyw ‘Arian Cyhoeddus’. Mae Arian Cyhoeddus yn rhestr o'r budd-daliadau lles a restrir yn ‘Rheolau Mewnfudo’Llywodraeth y DU. Os gwrthodwyd lloches i chi, nid yw’n debygol y caniateir i chi agor cyfrif cynilion.

Gronfa Cymorth Dewisol

Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa i gefnogi'r rhai sy’n ddiymgeledd, sef y ‘Gronfa Cymorth Dewisol’. Efallai y bydd modd i chi gael rhywfaint o arian os ydych yn ddiymgeledd a'ch bod yn gwneud cais trwy sefydliad cefnogi ffoaduriaid. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Prydau bwyd ysgol am ddim

Gall awdurdodau lleol benderfynu a ddylid caniatáu i geiswyr lloches a wrthodwyd gael mynediad at arian i dalu am brydau ysgol. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’

Os byddwch yn cael prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn, gallwch hefyd gael mynediad at £125 ychwanegol. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu gwisg ysgol, offer neu git chwaraeon. Gellir defnyddio hwn hefyd i dalu am weithgareddau y tu allan i'r ysgol trwy Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais am y cyllid hwn trwy eich awdurdod lleol a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gostau sy’n gysylltiedig ag addysg ar ôl 16 oed yn yr adran ‘Addysg i Bobl o Bob Oed' ar y wefan hon.

Title
Ffoadur wedi’i Ailsefydlu
Body

Dylai Llywodraeth y DU eich helpu i drefnu apwyntiad gyda'r ‘Ganolfan Byd Gwaith’ i geisio dod o hyd i swydd a chael budd-daliadau lles.

Credyd Cynhwysol

Fel ffoadur, mae'n debygol y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau lles megis ‘Credyd Cynhwysol’.Ceir rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar wefan Llywodraeth y DU. Fel arfer, mae ‘Credyd Cynhwysol’ yn cymryd nifer o wythnosau i gyrraedd eich cyfrif cynilion. Fodd bynnag, rydych yn debygol o fod yn gymwys i gael ‘Rhagdaliad’. Mae'n rhaid i chi ofyn am ragdaliad pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ofyn am Ragdaliadau ar wefan Llywodraeth y DU.

Daliad Cymorth Brys

Gallwch wneud cais am ‘Daliad Cymorth Brys’ os bydd oedi gyda'ch taliadau nawdd cymdeithasol. Gallwch wneud cais trwy ‘Gronfa Cymorth Dewisol’ Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y Gronfa ar wefan Llywodraeth Cymru

Fenthyciad Integreiddio Ffoaduriaid

Gallwch hefyd wneud cais am ‘Fenthyciad Integreiddio Ffoaduriaid’ gan Lywodraeth y DU. Gall y benthyciadau hyn dalu cost rhent, eitemau'r cartref, hyfforddiant neu addysg. Ceir rhagor o wybodaeth am Fenthyciadau Integreiddio Ffoaduriaid ar wefan Llywodraeth y DU.

I gael budd-daliadau lles neu gyflog o swydd mae'n debygol y bydd angen cyfrif cynilion arnoch. Mae'n bwysig eich bod yn agor cyfrif cyn gynted â phosibl. Ceir ystod o fanciau, ‘cymdeithasau adeiladu’ ac ‘undebau credyd’ y gellir cael mynediad iddynt ar gyfer cyfrif cynilion. Ceir rhagor o wybodaeth am Undebau Credyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prydau bwyd ysgol am ddim

Efallai y bydd ffoaduriaid yn gallu cael cymorth i dalu costau sy'n gysylltiedig â bod â phlant yn yr ysgol hefyd, gan ddibynnu ar eich incwm. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i'r rhai sy’n cael rhai taliadau nawdd cymdeithasol. Mae'n rhaid i chi wneud cais i'ch Awdurdod Lleol cyn y caiff y cyllid hwn ei ddarparu. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’.

Os byddwch yn cael prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn, gallwch hefyd gael mynediad at £125 ychwanegol. Gallwch ddefnyddio hwn i brynu gwisg ysgol, offer, cit chwaraeon neu weithgareddau y tu allan i'r ysgol. Gallwch wneud cais trwy Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi wneud cais am y cyllid hwn trwy eich awdurdod lleol a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gostau sy’n gysylltiedig ag addysg ar ôl 16 oed yn yr adran ‘Addysg i Bobl o Bob Oed' ar y wefan hon.