Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau
Dewis Iaith
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu

Tai

Dod o hyd i le addas i fyw fydd un o'ch prif bryderon ar ôl i chi gyrraedd Cymru. Mae tai yn fater datganoledig sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y mater hwn yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tai ar gyfer ceiswyr lloches yn dal i gael eu rheoli gan Lywodraeth y DU (y Swyddfa Gartref).

Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro'r system Tai yng Nghymru a phwy all gael cymorth.

Mae cost ac argaeledd tai yn amrywio ledled Cymru. Mae cost llety yn debygol o fod yn un o'r prif gostau i chi bob mis.

Os ydych yn rhentu eiddo, bydd gennych landlord. Mae dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i roi manylion ysgrifenedig i chi am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Bydd hyn yn cynnwys manylion rhent, pryd y gellir ei gwneud yn ofynnol i chi adael yr eiddo a chyfrifoldebau am atgyweirio'r adeilad.

Bydd eich hawl i gael tai yn dibynnu p'un a ydych yn geisiwr lloches, yn geisiwr lloches a wrthodwyd neu'n ffoadur. Dewiswch yr wybodaeth isod sy'n cyfateb i'ch statws mewnfudo ar gyfer gwybodaeth berthnasol.

Accordion
Title
Ceiswyr lloches sy’n oedolion – yn disgwyl am benderfyniad
Body

Ddiymgeledd

Os ystyrir eich bod yn ‘ddiymgeledd’ a heb unrhyw le i fyw, bydd Llywodraeth y DU yn rhoi rhywle ichi aros heb unrhyw gost. Gelwir hwn yn aml yn ‘llety lloches’. Ni fydd gennych unrhyw ddewis ble y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu eich cartrefu. Yng Nghymru, caiff y llety hwn ei reoli gan gwmni o'r enw ‘Clearsprings Ready Homes’.

Ffrindau a theulu

Os oes gennych deulu neu ffrindiau y gallwch fyw gyda hwy tra bod eich cais am loches yn cael ei benderfynu, efallai na fyddwch yn gymwys i gael llety gan Lywodraeth y DU. Ni fyddwch yn gallu cael mynediad at dai preifat nes bod eich cais am loches wedi cael ei benderfynu.

Clearsprings

Bydd llawer o geiswyr lloches yn cael eu symud i ‘Lety Cychwynnol’ yng Nghaerdydd. Yna, o fewn ychydig ddyddiau, byddant yn cael eu symud i ‘Lety Gwasgaredig’ mewn rhan arall o Gymru. Ar hyn o bryd, gallai hyn fod yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam. Gallai Llywodraeth y DU ofyn i ‘Clearsprings Ready Homes’ eich symud unrhyw bryd. Gallai hyn fod i wlad arall o fewn y DU neu ran arall o Gymru. Mae'n annhebygol y rhoddir mwy nag wythnos neu ddwy i chi baratoi ar gyfer y newid hwn. Gall ceiswyr lloches ofyn am beidio â chael eu symud ond bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan ‘Clearsprings Ready Homes’ a Llywodraeth y DU. Weithiau mae rhesymau da iawn pam y gallai fod angen i chi aros yn eich llety presennol. Efalla y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.

Bydd y llety a ddarperir i chi yn bodloni safon sylfaenol yn unig, ond dylai fod am ddim, yn saff ac yn ddiogel. Efallai y bydd gofyn i chi rannu eich llety gyda cheiswyr lloches eraill nad ydych yn eu hadnabod.

Migrant Help

Os oes unrhyw broblemau gyda'r llety gallwch ofyn am gael trwsio’r rhain trwy roi gwybod i ‘Migrant Help’. Ariennir ‘Migrant Help’ gan Lywodraeth y DU i gefnogi ceiswyr lloches sy'n disgwyl am benderfyniad. Os nad yw’r broblem wedi cael ei chywiro, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol.

Ar ôl eich penderfyniad

Dylech allu parhau i fyw yn eich llety heb unrhyw gost nes i'ch cais am loches gael ei ystyried. Os bydd eich cais am loches yn cael ei ganiatáu, byddwch yn cael 28 diwrnod i ddod o hyd i le newydd i fyw. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i helpu ffoaduriaid sydd newydd gael statws ffoadur i ddod o hyd i rywle arall i fyw. Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod yn llawn, byddwch yn cael 21 diwrnod i adael y llety. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gofyn i chi ddychwelyd i'ch gwlad wreiddiol.

Title
Ceiswyr lloches ifainc
Body

Os ydych o dan 18 mlwydd oed, dylai fod gennych hawl i gael cymorth gwahanol wrth i chi wneud cais am loches. Ni ddylech gael eich cartrefu gan ‘Clearsprings Ready Homes’. Dylech fod yn ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol a dylid eich rhoi mewn cartref maeth gyda theulu. Efallai y cynigir llety annibynnol â chymorth i rai ceiswyr lloches ifainc. Rhan o rôl yr awdurdod lleol yw darparu llety, gofal a chymorth addas i chi. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i hawlio lloches a darparu ar gyfer eich anghenion. Efallai na fydd Llywodraeth y DU yn credu eich bod o dan 18 oed os na allwch ddarparu dogfen sy'n profi eich dyddiad geni. Efallai y bydd angen i'ch oedran gael ei asesu gan yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir. Diben ‘asesiad oedran’ yw cadarnhau, hyd y gellir, beth yw eich oedran. Bydd hyn yn golygu gwrando ar unrhyw wybodaeth y gallwch ei darparu am eich plentyndod. Nid eich cyfrifoldeb chi yw profi eich oedran ond gallai unrhyw dystiolaeth y gallwch ei darparu fod o gymorth.

Bydd ‘asesiad oedran’ yn arwain at gael eich ystyried yn blentyn neu'n oedolyn. Os ydych yn anghytuno â'r canlyniad, gallwch herio'r penderfyniad. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan TGP Cymru

Title
Wedi cael statws ffoadur
Body

Os yw eich cais am loches wedi'i gymeradwyo, bydd Llywodraeth y DU yn eich cydnabod fel ffoadur. Ar y pwynt hwn, bydd gennych yr hawl i gael mynediad at dai unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd Llywodraeth y DU yn disgwyl i chi adael llety ‘Clearsprings Ready Homes’ o fewn 28 diwrnod. Gall fod yn anodd dod o hyd i le fforddiadwy arall i fyw o fewn cyfnod mor fyr. Mae'n bwysig eich bod yn dechrau chwilio cyn gynted â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall na wnaeth llawer o ffoaduriaid ddewis dod i Gymru ond rydym am i gynifer â phosibl o ffoaduriaid aros yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gefnogi ffoaduriaid yn ystod y cyfnod hwn o 28 diwrnod. Gwneir hyn er mwyn eich helpu i ddod o hyd i le newydd i fyw ac addasu i gael yr hawl i weithio a hawlio budd-daliadau lles. Efallai y gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu: 02920 489 800. Unwaith i chi gael eich cydnabod fel ffoadur, gallwch gofrestru gyda'ch awdurdod lleol i geisio cymorth i atal digartrefedd. Gall Cyngor Ffoaduriaid Cymru eich helpu gyda hyn neu gallwch gysylltu â'r awdurdod lleol eich hun. Mae awdurdodau lleol yn gweithredu system ‘Angen Blaenoriaethol’. Mae hyn yn golygu y bydd pobl dan rai amgylchiadau yn cael cymorth tai yn gynt. Mae'r rhai yr ystyrir eu bod yn fwy agored i niwed yn debygol o fod ag ‘Angen Blaenoriaethol’. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol’. Gallwch hefyd chwilio am le i fyw heb help gan sefydliadau eraill. Mae landlordiaid yn hysbysebu eu heiddo mewn papurau newydd lleol, ffenestri siopau a chydag asiantau gosod. Mae rheolau ynghylch faint o bobl ddylai fyw mewn mathau penodol o eiddo. Os hoffech wybod a yw eich cartref yn bodloni'r rheolau hyn, cysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd yn eich awdurdod lleol. 

Pan fyddwch yn rhentu eiddo dylech gael cytundeb tenantiaeth. Dyma'r cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r person sy'n berchen ar y tŷ (y landlord). Mae'r cytundeb yn nodi'r hawliau a'r cyfrifoldebau rhwng y ddau ohonoch. Dylai gynnwys gwybodaeth megis hyd y cytundeb, y rhent sy'n daladwy ac unrhyw gyfyngiadau, megis cadw anifeiliaid anwes. Bydd y cytundeb yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo ar yr amod nad ydych yn torri unrhyw un o'r telerau. Efallai y bydd angen geirda ar landlord preifat, ynghyd â blaendal ac un mis o rent y dylid ei dalu cyn i chi symud i'r eiddo.

Title
Ceiswyr lloches a wrthodwyd
Body

Os nad yw eich cais am loches yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad neu wneud cais am gymorth ‘Adran 4’. Ceir rhagor o wybodaeth am apeliadau yn yr adran ‘Cyfraith Lloches’.

Ni ddarperir rhywle i fyw ar eich cyfer nes bod eich cais o dan Adran 4 wedi'i benderfynu. Dylid penderfynu ar y ceisiadau hyn cyn pen 5 diwrnod gwaith ond gall gymryd wythnosau i fynd mor bell â chael cynnig o rywle i aros. Os bydd eich cais Adran 4 yn llwyddiannus byddwch yn cael rhywle i fyw. I fod yn gymwys am y cymorth hwn, rhaid i chi gael eich ystyried yn ‘ddiymgeledd’ neu'n debygol o fod yn ddiymgeledd o fewn y 14 diwrnod nesaf. Rhaid ichi hefyd allu dangos eich bod yn ceisio gadael y Deyrnas Unedig ond na allwch wneud hynny. Gallwch hefyd ddangos bod cymorth Adran 4 yn angenrheidiol er mwyn osgoi tramgwyddo ar eich hawliau dynol.

Os gwrthodir eich cais o dan Adran 4, ni fydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi. Os oes gennych blant gyda chi yna efallai y byddwch yn gallu cael cymorth, gan gynnwys rhywle i aros, gan dîm Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn darparu ar gyfer rhoi cymorth dan amgylchiadau penodol. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.

Os nad  oes gennych arian ac os ydych yn amddifad, efallai bod hawl gennych i ychydig o gymorth, a elwir yn ‘cymorth adran 4’. Rhaid i chi ddangos y canlynol hefyd:

  1. Rydych yn cymryd pob cam rhesymol i adael y Deyrnas Unedig.
  2. Nid ydych yn gallu gadael y Deyrnas Unedig oherwydd bod rhwystr corfforol neu reswm meddygol arall yn eich atal rhag teithio.
  3. Nid ydych yn gallu gadael y Deyrnas Unedig oherwydd nad oes ffordd ymarferol i chi ddychwelyd.
  4. Rydych wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol o'ch penderfyniad ar eich cais am loches ac rydych wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen.
  5. Mae llety yn angenrheidiol er mwyn osgoi torri eich hawliau dynol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Os gwrthodir eich cais Adran 4 ac nad oes plant gyda chi yng Nghymru, bydd yn anodd iawn i chi ddod o hyd i rywle i fyw yn gyfreithlon. Ni fydd Llywodraeth y DU yn darparu llety i chi ac ni fydd eich awdurdod lleol yn gallu eich cartrefu yn ôl y gyfraith. Efallai y bydd landlord preifat yn torri'r gyfraith hefyd os yw'n rhoi cartref i chi ar rent. Efallai y bydd modd i chi gael cymorth gan ‘gynllun lletya’. Mae llawer o gynlluniau lletya bach yn weithredol yng Nghymru. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gyda’r mater hwn gan sefydliad lleol.

Title
Ffoadur wedi’I ailsefydlu
Body

Os rhoddwyd statws ffoadur i chi cyn i chi ddod i'r Deyrnas Unedig, ni fydd yn rhaid i chi fyw mewn llety lloches. Ni fydd yn rhaid i chi aros am ganlyniad cais am loches. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich ailsefydlu’n uniongyrchol mewn llety gan eich awdurdod lleol. Gall hwn fod yn eiddo y mae’r awdurdod lleol,  ‘cymdeithas dai’ neu landlord preifat yn berchen arno. Dros amser, bydd yn ofynnol i chi wneud y taliadau rhent. Os na allwch ddod o hyd i swydd yna mae'n bosibl y cewch daliadau nawdd cymdeithasol (a elwir hefyd yn fudd-daliadau lles) i helpu gyda'r costau hyn.

Gallwch gofrestru gyda'ch awdurdod lleol i geisio cymorth i atal digartrefedd. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu system ‘Angen Blaenoriaethol’. Mae hyn yn golygu y bydd pobl dan rai amgylchiadau yn cael cymorth tai yn gynt. Mae'r rhai yr ystyrir eu bod yn fwy agored i niwed yn debygol o fod ag ‘Angen Blaenoriaethol’. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen ‘Eich Ardal Leol'.

Pan fyddwch yn rhentu eiddo dylech gael cytundeb tenantiaeth. Dyma'r cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r person sy'n berchen ar y tŷ (y landlord). Mae'r cytundeb yn nodi'r hawliau a'r cyfrifoldebau rhwng y ddau ohonoch. Dylai gynnwys gwybodaeth megis hyd y cytundeb, y rhent sy'n daladwy ac unrhyw gyfyngiadau, megis cadw anifeiliaid anwes. Bydd y cytundeb yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo ar yr amod nad ydych yn torri unrhyw un o'r telerau. Efallai y bydd angen geirda ar landlord preifat, ynghyd â blaendal ac un mis o rent y dylid ei dalu cyn i chi symud i'r eiddo.