Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau
Dewis Iaith
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu

Iechyd a lles

Rydym eisiau i chi gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf yma:

https://noddfa.llyw.cymru/covid-19  

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn aml wedi profi trawma corfforol neu feddyliol ar eu taith i Gymru. Sicrhau y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael mynediad at wasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Dyma un o'r blaenoriaethau yn ein cynllun Cenedl Noddfa. Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro sut a ble y gallwch gael gofal iechyd. Gall pob ceisiwr lloches a ffoadur gael triniaeth feddygol am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru. Mae gennych hawl i gael gwybodaeth berthnasol mewn iaith yr ydych yn ei deall. Cyfrifoldeb y gwasanaethau iechyd yw trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd am ddim er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyfathrebu'n iawn.

Mae GIG Cymru yn cynnig profion sgrinio am ddim i aelodau o'r cyhoedd i weld a ydynt mewn mwy o berygl o gael rai clefydau. Gall y profion hyn sicrhau eich bod yn cael mynediad at driniaeth i wella’ch iechyd os ydych yn cael gwybod bod mwy o berygl i chi gael clefyd. Bydd angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu i wneud yn siŵr eich bod yn cael cynnig sgrinio ar yr adeg gywir. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wefan Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r rheini sydd yn y broses o geisio lloches ac sydd ar fin dod yn rhieni, neu sydd eisoes yn rhieni, yn wynebu sawl her yn eu cartrefi newydd. Mae yna adnoddau amrywiol i helpu rhieni ar-lein. Un o'r rhain yw dull gweithredu Solihull sy’n cynnig cyngor ar bynciau fel ymddygiad plant, bwydo, cysgu a defnyddio’r toiled. Mae’r adnoddau ar gael yn Arabeg, Tsieineeg, Pwyleg, Pwnjabeg  ac ieithoedd eraill. 

Accordion
Title
Cofrestru gyda’r gwasanaethau iechyd
Body

Mae gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches hawl i gael mynediad at feddygfeydd meddygon teulu. Mae'n rhaid i chi gofrestru gyda meddyg teulu i sicrhau eich bod yn gallu cael triniaeth pan fyddwch yn sâl. Gall meddygon teulu benderfynu cofrestru ceiswyr lloches a wrthodwyd neu beidio. Rhaid iddynt gynnig triniaeth sy’n angenrheidiol ar unwaith i unrhyw un sydd fel arfer yn byw y tu allan i'w hardal. Os na ellir eich cofrestru fel preswylydd parhaol yn yr ardal, gallech gael eich trin fel preswylydd dros dro am o leiaf 14 diwrnod. Os ydych yn geisiwr lloches, dylai ‘Clearsprings Ready Homes’ eich cynorthwyo i gael eich cofrestru gyda meddyg teulu. Os ydych yn cael trafferth cael eich derbyn gan feddygfa meddyg teulu, gall eich Bwrdd Iechyd Lleol eich cofrestru mewn meddygfa. I ddod o hyd i feddygfa meddyg teulu yn agos atoch chi ewch at y wefan Galw Iechyd Cymru.

Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw trefnu bod cyfieithydd ar gael i chi yn rhad ac am ddim mewn apwyntiadau meddygol ac apwyntiadau ysbyty. Bydd angen i’r gwasanaeth gael gwybod bod arnoch angen cyfieithydd cyn i chi gyrraedd oherwydd bod angen trefnu hyn ar eich cyfer

Statws mewnfudo a Iechyd

Nid oes rhaid i geiswyr lloches ddarparu eu statws mewnfudo wrth gofrestru gyda gwasanaethau iechyd. Gall gwasanaethau iechyd ofyn am brawf pwy ydych wrth benderfynu a oes gennych hawl i driniaeth yn rhad ac am ddim. Dylai ceiswyr lloches ddangos ‘Cerdyn Cofrestru Lloches (CCLl)’. Gallwch hefyd ddangos llythyr oddi wrth Lywodraeth y DU sy’n egluro bod y cais am loches wedi ei wrthod. Efallai y bydd rhai ceiswyr lloches a wrthodwyd yn bryderus ynghylch rhoi eu manylion i'r Bwrdd Iechyd Lleol. Ni fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhannu eich manylion gyda Llywodraeth y DU. Y rheswm dros hyn yw ein bod yn credu ei bod yn bwysig eich bod yn ceisio triniaeth os oes ei hangen arnoch.

Os ydych yn geisiwr lloches sy'n byw mewn ‘Llety Cychwynnol’ yng Nghaerdydd, gallwch fynd i ‘Bractis Mynediad at Iechyd Caerdydd’ (CHAP). Mae CHAP yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Bydd CHAP yn cysylltu â chi yn ystod eich arhosiad i gynnig apwyntiad sgrinio iechyd i chi. Gall CHAP hefyd drefnu brechiadau neu imiwneiddiadau. Rydym yn argymell eich bod yn derbyn y cynnig hwn gan y gall y gwasanaeth sicrhau bod unrhyw broblemau iechyd yn cael eu deall yn iawn a'u trin cyn gynted â phosibl.

Os ydych mewn llety lloches yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam, bydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ‘nyrs lloches’ sydd ar gael. Byddant yn eich helpu i gofrestru gyda gwasanaethau iechyd yn yr ardal leol. Dylai ‘Clearsprings Ready Homes’ allu nodi pwy yw’r nyrs lloches os oes angen.

Deintyddol

Mae deintydd yn sicrhau bod eich dannedd yn iach. Nid oes angen i chi gofrestru gyda deintydd ond dim ond gan ddeintydd sy’n derbyn cleifion y GIG y bydd triniaeth ddeintyddol am ddim ar gael. Gallwch ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn lleol trwy chwilio yn eich ardal leol ar y wefan Galw Iechyd Cymru. Os oes arnoch angen triniaeth ddeintyddol frys, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Title
Cael cymorth meddygol
Body

Ar ôl i chi gofrestru gyda meddyg teulu, gallwch gael gofal meddygol rheolaidd. Fel arfer, bydd hyn trwy system apwyntiadau. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg teulu am fanylion sut i drefnu apwyntiadau yn eich meddygfa. Gallwch hefyd ofyn am gael eich gweld gan feddyg gwrywaidd neu fenywaidd os yn bosibl. Gallwch ofyn am ymweliad cartref os ydych yn anabl neu'n rhy anhwylus i ymweld â meddygfa'r meddyg teulu.

Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw trefnu bod cyfieithydd ar gael i chi yn rhad ac am ddim mewn apwyntiadau meddygol ac apwyntiadau ysbyty. Bydd angen i’r gwasanaeth gael gwybod bod arnoch angen cyfieithydd cyn i chi gyrraedd oherwydd bod angen trefnu hyn ar eich cyfer

Dylech wneud yn siŵr bod y feddygfa meddyg teulu yn gwybod ymlaen llaw os bydd angen iddynt drefnu cyfieithydd ar y pryd yn ystod eich apwyntiad.

Ceir llawer o gyngor ynghylch iechyd ar y wefan Galw Iechyd Cymruneu dros y ffôn, heb yr angen i ddisgwyl am apwyntiad gyda meddyg teulu. Mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth cyfieithu ar y pryd sy'n helpu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i gael cymorth yn eu dewis iaith. Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Galw Iechyd Cymru ei roi i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg ar eu gwefan

Nod y GIG yng Nghymru yw darparu'r gofal gorau a'r driniaeth orau ond weithiau gall triniaeth fynd o chwith. Pan fydd hyn yn digwydd gallwch gyfleu cwyn. Efallai mai'r peth hawsaf fyddai siarad gyda'r rhai sy'n rhoi triniaeth i chi ond os nad ydych am wneud hyn, gallwch siarad gyda thîm cwynion y Bwrdd Iechyd. Ewch at y wefan Iechyd yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth am gyfleu cwyn

Gellir ceisio triniaeth feddygol frys trwy ffonio 999 a gofyn am ambiwlans. Dim ond mewn argyfwng y dylid defnyddio’r rhif hwn. Os nad ydych yn siarad neu'n deall Saesneg, siaradwch yn eich iaith eich hun. Bydd y swyddog ateb galwadau yn trefnu cyfieithydd. Mae'n bwysig eich bod yn dweud ble ydych chi, gan gynnwys y cyfeiriad a'r cod post.

Mae presgripsiynau am feddyginiaethau am ddim i bawb yng Nghymru. Gellir casglu meddyginiaethau o fferyllfeydd lleol.

Mae llawer o wasanaethau iechyd yng Nghymru yn rhedeg gwasanaethau ‘Y Tu Allan i Oriau’ rhwng 6:30pm a 8:00am yn ystod yr wythnos a thrwy'r dydd ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus. Dyma pryd y gall llawer o leoliadau gofal iechyd fod ar gau. Yn ystod cyfnodau ‘y tu allan i oriau’ efallai y byddwch yn dal i allu ffonio eich meddygfa meddyg teulu ac efallai y cewch eich ailgyfeirio at wasanaeth arall. Gallwch hefyd gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 08454647 i gael cyngor a gwybodaeth.

Mae GIG Cymru yn darparu rhaglenni ‘sgrinio’ i brofi aelodau o'r cyhoedd am wahanol fathau o glefydau ar wahanol adegau mewn bywyd. Mae hyn yn cynnwys mathau o Ganser, Clefyd y Galon ac anhwylderau sy'n effeithio ar ddatblygiad iach plant. Ceir rhagor o wybodaeth am raglenni sgrinio ar y wefan Sgrinio am Oes.

Title
Iechyd a lles meddyliol
Body

Mae gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles yn rhan bwysig iawn o gadw'n iach. Gall unrhyw un deimlo'n bryderus, yn poeni neu dan straen ar wahanol adegau yn eu bywyd. Rydych chi'n debygol o fod wedi profi digwyddiadau trawmatig ac mae addasu i fywyd mewn gwlad newydd yn gallu bod yn anodd iawn. Gallwch siarad gyda'ch meddyg teulu os ydych yn teimlo dan straen neu’n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu dod o hyd i gymorth arbenigol i chi. Os ydych yn dymuno siarad gyda rhywun am y problemau hyn, mae gan y Samariaid linell ffôn am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n gyfrinachol. Gallwch eu ffonio ar 116 123.  Ceir sefydliadau eraill sy’n ceisio helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n teimlo fel hyn. Efallai y gallwch ddod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Bydd llawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn profi rhywbeth a elwir yn Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Gall rhywun sydd ag Anhwylder Straen wedi Trawma ail-fyw trawma drwy hunllefau ac ôl-fflachiau. Efallai eich bod yn teimlo'n ynysig neu'n euog am yr hyn a ddigwyddodd. Efallai eich bod yn cael trafferth cysgu a chanolbwyntio. Gall Anhwylder Straen wedi Trawma effeithio arnoch yn syth ar ôl digwyddiad cythryblus neu fisoedd neu flynyddoedd wedi hynny. Os ydych chi'n credu eich bod chi, neu fod rhywun rydych yn ei adnabod, yn dioddef Anhwylder Straen wedi Trawma, dylech siarad gyda'ch meddyg teulu am hyn.

Gall ceiswyr lloches dreulio misoedd lawer yn disgwyl i Lywodraeth y DU benderfynu ar eu cais am loches. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn teimlo'n ynysig ac yn teimlo fel rhoi'r ffidil yn y to.Mae gwirfoddoli gydag elusen neu gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn gallu bod yn ffyrdd da o wella eich lles. Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gymorth gan sefydliad lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Gall iechyd neu les meddyliol gwael effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd. Mae gan ysgolion uwchradd wasanaethau cwnsela y gall disgyblion eu defnyddio os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus, yn bryderus neu'n ddryslyd.

Title
Mamolaeth ac Iechyd atgenhedlol
Body

Os ydych yn feichiog dylech roi gwybod i'r feddygfa meddyg teulu er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymorth yn ystod eich beichiogrwydd gan fydwragedd y GIG. Ar ôl i'r baban gael ei eni, bydd ‘ymwelwyr iechyd’ yn rhoi cyngor a chymorth i chi er mwyn sicrhau bod eich baban yn datblygu'n dda. Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau ‘sgrinio’ i wirio bod eich baban yn iach. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau cyn i'r baban gael ei eni a phan fydd yn newydd-anedig. Ceir rhagor o wybodaeth am raglenni sgrinio plant ar y wefan Sgrinio am Oes. Gall plant sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru hefyd gael amrywiaeth o frechiadau i'w cadw hwy, cadw eu teulu a chadw eu cymdogion yn ddiogel. Cynigir y brechlynnau hyn am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth am frechlynnau yn ystod plentyndod ar y wefan Galw Iechyd Cymru.

Mae'r GIG yn darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd atgenhedlol a all eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae hyn yn cynnwys cyngor ynghylch atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, erthylu a chynllunio teulu. Gallant hefyd helpu os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Ceir rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol ar y wefan Galw Iechyd Cymru. Mae defnyddio dulliau atal cenhedlu ac erthylu yn gyfreithlon yn y DU a gellir eu darparu yn ddiogel ac yn ddi-dâl.

Gall ysmygu neu yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd niweidio datblygiad eich plentyn. Ceir cyngor a chymorth i roi’r gorau i ysmygu ar y wefan ‘Helpa Fi i Stopio’. Ceir cyngor ynghylch sut i roi’r gorau i yfed alcohol ar y wefan Alcohol Change.

Os ydych yn oroeswr trais rhywiol, gallwch gael rhagor o wybodaeth a allai eich helpu ar y dudalen ‘Cadw’n Ddiogel’ ar y wefan hon.