Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau
Dewis Iaith
  • Default
    Reset
  • Afrikaans
    Afrikaans
  • Albanian
    shqip
  • Amharic
    ኣማርኛ
  • Arabic
    عربي
  • Armenian
    Հայերէն
  • Azerbaijani
    آذربايجانجا ديلي
  • Basque
    euskara
  • Bengali
    বাংলা (baɛṅlā)
  • Belarusian
    Беларуская мова
  • Bosnian
    bosanski
  • Bulgarian
    български (bãlgarski)
  • Catalan
    català
  • Cebuano
    Sinugboanon
  • Chichewa
    Chicheŵa
  • Chinese Simplified
    中国简化
  • Chinese Traditional
    中國傳統
  • Corsican
    corsu
  • Croatian
    Hrvatski
  • Czech
    čeština
  • Danish
    dansk
  • Dutch
    Nederlands
  • English
    English
  • Esperanto
    Esperanto
  • Estonian
    eesti keel
  • Filipino
    filipino
  • Finnish
    suomi
  • French
    français
  • Frisian (West)
    Frysk
  • Galician
    Galego
  • Georgian
    ქართული (kʻartʻuli)
  • German
    Deutsch
  • Greek
    ελληνικά
  • Gujarati
    ગુજરાતી
  • Haitian Creole
    Kreyòl ayisyen
  • Hausa
    حَوْس
  • Hawaiian
    ʻōlelo Hawaiʻi
  • Hebrew
    עִבְרִית
  • Hindi
    हिन्दी
  • Hmong
    Hmong
  • Hungarian
    Hungarian magyaChichewar
  • Icelandic
    Íslenska
  • Igbo
    Igbo
  • Indonesian
    Bahasa Indonesia
  • Irish (Gaelic)
    Gaeilge
  • Italian
    italiano
  • Japanese
    日rus本語
  • Javanese
    baṣa Jawa
  • Kannada
    ಕನ್ನಡ
  • Kazakh
    Қазақ тілі
  • Khmer
    ភាសាខ្មែរ
  • Korean
    한국어
  • Kurdish
    Kurmanji
  • Kyrgyz
    قىرعىز
  • Lao
    ພາສາລາວ
  • Latin
    Lingua Latina
  • Latvian
    latviešu valoda
  • Lithuanian
    lietuvių kalba
  • Luxembourgish
    Lëtzebuergesch
  • Macedonian
    македонски
  • Malagasy
    Fiteny Malagasy
  • Malay
    Bahasa melayu
  • Malayalam
    മലയാളം
  • Maltese
    Malti
  • Maori
    te Reo Māori
  • Marathi
    मराठी
  • Mongolian
    Монгол
  • Myanmar (Burmese)
    ဗမာစကား
  • Nepali
    नेपाली
  • Norwegian
    norsk
  • Pashto
    پښتو
  • Persian
    فارسى
  • Polish
    polski
  • Portuguese
    português
  • Punjabi
    ਪੰਜਾਬੀ
  • Romanian
    limba
  • Russian
    Русский язык
  • Samoan
    Gagana Samoa
  • Scots Gaelic
    Gàidhlig
  • Serbian
    српски
  • Sesotho
    seSotho
  • Shona
    chiShona
  • Sindhi
    سنڌي
  • Sinhala
    සිංහල
  • Slovak
    slovenčina
  • Slovenian
    slovenščina
  • Somali
    af Soomaali
  • Spanish
    español
  • Sundanese
    Basa Sunda
  • Swahili
    Kiswahili
  • Swedish
    svenska
  • Tamil
    தமிழ்
  • Tajik
    тоҷики
  • Telugu
    తెలుగు
  • Thai
    ภาษาไทย
  • Turkish
    Türkçe
  • Ukrainian
    Українська
  • Urdu
    اردو
  • Uzbek
    أۇزبېك ﺗﻴﻠی o'zbek tili ўзбек тили
  • Vietnamese
    tiếng việt
  • Yiddish
    ײִדיש
  • Xhosa
    isiXhosa
  • Yoruba
    Yorùbá
  • Zulu
    isiZulu

Am ein cymuned

Mae Cymru yn wlad amrywiol gyda phobl o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig, cenedlaethol, crefyddol neu ddiwylliannol. Mae hyn yn cynnwys miloedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cwr o'r byd. Mae'r adran hon o'r wefan yn egluro pethau pwysig i chi eu gwybod am gymunedau yng Nghymru.

Accordion
Title
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Body

Mae ein deddfau'n datgan bod yn rhaid i bobl gael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Mae'n anghyfreithlon trin rhywun arall yn waeth oherwydd ei:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Rhywedd
  • Hunaniaeth o ran rhywedd (lle mae hyn yn wahanol i'w rywedd pan y’i ganed)
  • P'un a yw’n briod ai peidio
  • Beichiogrwydd
  • Hil
  • Daliadau crefyddol
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Rydym yn ystyried pawb yn gyfarta. Gwarentir hyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Os cewch eich trin yn wael oherwydd un o'r gwahaniaethau hyn, gall hyn gael ei ystyried yn wahaniaethu neu'n drosedd casineb.  Gallwch roi gwybod i’r Heddlu am hyn neu hysbysu yn ei gylch trwy Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i gael cymorth.

Mae gan yr holl blant yng Nghymru hawliau a warentir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn a chymorth ar y dudalen Cadw’n Ddiogel ar y wefan hon. 

Yng Nghymru, mae rhyddid i bobl ddilyn unrhyw grefydd neu gred. Cristnogaeth yw'r grefydd fwyaf yng Nghymru. Nid yw bron i draean o bobl Cymru yn dilyn unrhyw grefydd o gwbl. Mae nifer y dilynwyr Mwslimaidd, Hindŵaidd a Bwdhaidd yn cynyddu yng Nghymru.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU sy'n penderfynu ar gyfreithiau Cymru. Nid yw deddfau’n cael eu gwneud gan sefydliadau nac arweinwyr crefyddol. Nid yw deddfau’n cael eu gwneud gan sefydliadau nac arweinwyr crefyddol. 

Rydym yn croesawu pobl i Gymru o bob rhan o'r byd ond rydym yn disgwyl iddynt ddilyn y rheolau hyn pan fyddant yn byw yn ein cymuned.

Title
Bywyd cymunedol
Body

Mae ‘cydlyniant cymunedol’ yn derm a ddefnyddir gennym i ddisgrifio sut y gall pawb mewn ardal fyw ochr yn ochr gyda dealltwriaeth a pharch ar y ddwy ochr. Mae pobl Prydain fel arfer yn dawedog ac yn arddel moesau da. Mae cymdogion yn hoffi cyfarch ei gilydd yn gwrtais drwy ddweud ‘helo’, ‘bore da’, neu ‘prynhawn da’. Gall hyd yn oed y rhai hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl ddefnyddio cyfarchion Cymraeg – ‘shwmae’, ‘Bore da’ neu ‘Prynhawn da’.

Mae pobl Prydain yn gwerthfawrogi moesau da. Dywedwch ‘os gwelwch yn dda’ wrth ofyn am rywbeth neu ‘diolch’ pan fyddwch wedi cael rhywbeth. Mae ‘Esgusodwch fi’ yn ffordd gwrtais o gael sylw. Gallai moesau gwael gynnwys poeri neu droethi mewn man cyhoeddus ar wahân i doiled. Dylid rhoi sbwriel mewn bin bob amser. Mae pobl Prydain yn ceisio ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl.

Gall gwneud gormod o sŵn ar y stryd neu’n hwyr yn y nos arwain at gwynion gan eich cymdogion. Bydd cadw anifeiliaid anwes o dan reolaeth a’ch gerddi’n daclus yn atal cwynion.

Mae'n anghyfreithlon ysmygu mewn llawer o fannau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pob siop, bwyty, bws, trên, ffatri a cheir os yw plant yn bresennol. Gallwch gael dirwy hyd at £200 am ysmygu yn un o'r mannau hyn. Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i brynu sigaréts. Gallwch ysmygu yn eich cartref eich hun neu fannau a neilltuwyd ar gyfer ysmygu. Gall ‘Helpa Fi i Stopio’ eich helpu i roi’r gorau i ysmygu.

Mae cyfyngiadau hefyd ar ddefnyddio alcohol. Rhaid eich bod yn 18 mlwydd oed o leiaf i brynu alcohol. Ceir terfynau llymo ran faint o alcohol allwch ei yfed os ydych yn gyrru. Er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd y tu hwnt i’r terfynau hyn mae'n fwy diogel peidio ag yfed unrhyw alcohol os ydych yn bwriadu gyrru cerbyd.

Yn y Deyrnas Unedig, lle bynnag mae toreth o bobl byddwch yn dod o hyd i giw trefnus. Os oes pobl yn aros am rywbeth dylech ymuno â chefn y ciw. Fel hyn mae pob person yn derbyn y gwasanaeth yn y drefn y cyrhaeddodd. Rydym yn 'aros ein tro' mewn ciwiau. Mae'n cael ei ystyried yn annheg os nad yw rhywun yn ymuno â'r ciw ond yn gwthio i flaen y ciw.


Gall ciwio ymddangos yn rhyfedd iawn os nad ydych chi'n gyfarwydd ag ef. Os ydych yn gwthio i'r blaen, mae hynny'n cael ei ystyried yn anghwrtais ac yn annheg iawn i bobl eraill sydd wedi bod yn aros. Os nad ydych yn siŵr Gofynnwch "Ai hwn yw cefn y ciw?" er mwyn osgoi gwylltio neb.

Mae gan Gymru hanes balch o ddarparu noddfa i'r rheini sy'n ffoi rhag erledigaeth o bob cwr o'r byd. Mae Cymru'n agored i bobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT+) sydd wedi dod i'r Deyrnas Unedig i chwilio am hafan ddiogel rhag erledigaeth.

Mae ceiswyr lloches LGBT+ yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol  o ran sicrhau bod eu hangen am amddiffyniad yn cael ei gydnabod. Efallai y byddwch yn wynebu cwestiynau anodd ac annifyr wrth fynd trwy'r broses o geisio lloches yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n bwysig eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn rhydd i fod yn chi eich hun pan fyddwch yn byw yng Nghymru. Mae nifer o wasanaethau y gallwch ddod o hyd iddynt megis Stonewall, Tawe Butterflies neu Hoops & Loops o Gasnewydd.

Title
Cofrestriadau
Body

Mae'n orfodol cofrestru genedigaeth neu farwolaeth yn y DU. Rhaid cofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod yn y sir lle digwyddodd yr enedigaeth. Os nad yw'r rhieni'n briod, rhaid i'r ddau riant fod yn bresennol wrth gofrestru os ydynt am i fanylion y ddau ohonynt gael eu cynnwys ar y dystysgrif geni. Gall y naill riant neu'r llall gofrestru genedigaeth os yw'r rhieni yn briod â'i gilydd. Rhaid gwneud apwyntiadau gyda'r Awdurdod Lleol. Rhaid cofrestru marwolaeth o fewn 5 niwrnod yn y sir lle digwyddodd y farwolaeth. Mae'n ddyletswydd ar berthynas i'r sawl a fu farw gofrestru'r farwolaeth.

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau. Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio os gofynnir i chi wneud hynny ac os caniateir i chi bleidleisio. Os na wnewch hynny, gallai eich swyddfa gofrestru etholiadol leol roi dirwy o £80 i chi.

Title
Gwybodaeth ddefnyddiol
Body

Mae ar lawer o wasanaethau yng Nghymru angen i chi wneud apwyntiad cyn y gallwch gael cymorth. Y rheswm dros hyn yw bod gwasanaethau yn aml yn brysur iawn. Efallai y bydd apwyntiadau mor fyr â 10 munud, felly mae'n bwysig nad ydych yn hwyr ar gyfer yr amser a roddwyd i chi. Os ydych yn hwyr, efallai y caiff yr apwyntiad ei ganslo ac efallai na chewch apwyntiad arall am wythnosau. Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu bod yn bresennol ar adeg yr apwyntiad dylech wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn gwybod. Efallai y byddant yn gallu gwneud newidiadau i'ch helpu. Os oes angen i chi ddefnyddio iaith wahanol yn ystod eich apwyntiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud hyn wrth y gwasanaeth pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad. Efallai y bydd modd trefnu cyfieithydd i'ch helpu i gael eich deall.

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn gweithredu yn ystod yr hyn a elwir yn ‘wythnos waith’. Mae hyn yn golygu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae hyn hefyd fel arfer yn golygu rhwng 9am a 5pm. Mae ‘gwaith sifft’ yn aml yn cyfeirio at drefniant lle mae pobl yn gweithio oriau hwy neu fwy hyblyg na hyn.

Yn yr haf, caiff y clociau yng Nghymru eu troi ymlaen un awr. Gelwir hyn yn ‘Amser Haf Prydain’ neu BST.  Mae BST yn cychwyn ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth ac yn gorffen ar y dydd Sul olaf ym mis Hydref. Ym mis Hydref, caiff y clociau eu troi yn ôl un awr. Gelwir yr amser rhwng diwedd mis Hydref a mis Mawrth yn ‘Amser Cymedrig Greenwich’ neu GMT.

Mae swyddfeydd post yn darparu llawer o wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys eich helpu i anfon post, gwirio ffurflenni ar gyfer pasbortau neu drwyddedau a rhai cyfrifon cynilion sylfaenol. Gallwch gael gwybod mwy am eu gwasanaethau yma. Bydd gan bob ardal leol lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Eich Ardal Leol page.

 

Title
Trethi a chyfleustodau
Body

Bydd angen i'r rhan fwyaf o drigolion Cymru dalu am amrywiaeth o wasanaethau.

Mae’r ‘Dreth Gyngor’ yn daladwy ar bron bob math o lety. Chi sy'n gyfrifol am dalu hon os ydych yn berchen ar yr eiddo neu os ydych wedi'ch enwi ar gytundeb prydlesu. Os methwch â thalu eich Treth Gyngor, gellir eich erlyn mewn llys barn. Efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol i dalu'r Dreth Gyngor. Os ydych yn geisiwr lloches, caiff y Dreth Gyngor hon ei thalu gan Lywodraeth y DU. 

Os ydych yn ffoadur sy'n byw yn eich eiddo eich hun rydych yn debygol o gael ‘biliau cyfleustodau’. Mae'r rhain yn cynnwys biliau ar gyfer dŵr, trydan, nwy a ffôn neu fynediad at y Rhyngrwyd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu'r biliau hyn yn fisol ond mae cwmnïau cyfleustodau'n aml yn cynnig amrywiaeth o opsiynau talu. Os ydych yn geisiwr lloches, bydd Llywodraeth y DU yn talu rhai o'r biliau hyn drosoch chi.

Mae'n rhaid bod gennych ‘Drwydded Deledu’ os byddwch yn gwylio neu'n recordio rhaglenni byw neu ‘ar alw’ ar y teledu, ar gyfrifiadur neu ddyfais arall. Gallwch gael dirwy hyd at £1,000 os byddwch yn gwylio'r rhaglenni hyn heb drwydded. Gallwch ganfod a oes angen trwydded deledu arnoch a gwneud cais am un ar y wefan trwyddedu teledu.

Fel arfer, mae gan ffoaduriaid hawl i weithio. Pan fyddwch yn cael eich cyflog efallai y byddwch yn gweld bod ‘Treth Incwm’ ac ‘Yswiriant Gwladol’ wedi'u didynnu o'ch tâl. Caiff y trethi hyn eu didynnu o gyflog y rhan fwyaf o oedolion sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig i ariannu'r Llywodraeth. Caiff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (‘GIG’) ei ariannu fel hyn hefyd. Fel arfer, nid oes gan geiswyr lloches yr hawl i weithio.

Title
Gyrru yng nghymru
Body

Ni all ceiswyr lloches heb drwydded yrru wneud cais am drwydded yrru yn y Deyrnas Unedig. Mae ceiswyr lloches sydd â thrwydded yrru yn cael gyrru yn y DU am uchafswm o 12 mis o'r dyddiad y gwnaethant gyrraedd y Deyrnas Unedig. Ar ôl y cyfnod hwn, ni chaniateir i geiswyr lloches yrru.

Rhaid i ffoaduriaid fod wedi cael caniatâd i aros am o leiaf 185 diwrnod i fod yn gymwys i wneud cais am drwydded yrru yn y DU. Gallwch wneud cais am drwydded yrru yma.

Yn ogystal â bod â thrwydded yrru ddilys, rhaid bod gan bob gyrrwr yn y DU yswiriant cerbyd dilys. Mae'n drosedd gyrru yn y DU heb yswiriant neu ganiatáu i eraill yrru eich car heb yswiriant.

Mae angen i geir dros dair blwydd oed lwyddo mewn archwiliad diogelwch bob blwyddyn a elwir yn ‘MOT’ hefyd. Gall llawer o garejis ceir gwblhau’r archwiliad hwn a rhoi'r dystysgrif MOT i chi os bydd eich car yn llwyddo yn yr archwiliad. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi er mwyn i'r archwiliad MOT gael ei gwblhau.

Rhaid i chi hefyd sicrhau bod eich car yn cael ei drethu'n gywir. Gallwch wirio a yw’n ofynnol talu am dreth cerbyd (neu ‘dreth ffordd’) ar gyfer eich car. DVLA yw enw’r sefydliad sy’n gyfrifol am dreth cerbyd a diogelwch cerbydau. Gall y DVLA wirio a yw eich car wedi’i drethu neu a oes ganddo MOT dilys. 

Rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os byddwch yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad, os byddwch yn gwerthu eich cerbyd neu os oes gennych gyflwr meddygol.

Yr unig ieithoedd y gallwch chi sefyll prawf gyrru theori neu’ch prawf gyrru ymarferol ynddynt yw Cymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain.